Y canlyniadau blaenoriaeth a ddynodwyd drwy ymgysylltiad gyda dinasyddion, partneriaid a defnyddio’r matrics blaenoriaethu, ac a gadarnhawyd yn ddilynol drwy ymgynghoriad yw:

  1. Cefnogi gofalwyr i ofalu drwy seibiant hyblyg, mynediad i wybodaeth gywir, cefnogaeth tebyg at ei debyg a chynllunio gofal effeithlon.
  2. Gwella llesiant gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr drwy gynyddu dealltwriaeth gyhoeddus.

 

 

 

Rhagwelir y bydd pob ardal awdurdod lleol ar draws rhanbarth Gwent yn gweld cynnydd yn y nifer. Mae’r cynnydd a ragwelir yn amrywio o 35.6% ym Mlaenau Gwent i 58.9% yn Sir Fynwy dros y cyfnod.

 

 

 

 

 

Dengys fod y nifer yn amrywio o 17 ym Mlaenau Gwent i 51 yng Nghasnewydd.

 

 

 

Gallaf helpu pobl ifanc sydd yn yr un sefyllfa â fi a dweud wrthynt beth sy’n gweitho a lle i gael help.

Gofalwr Ifanc, Aelod Fforwm Ieuenctid

Crynodeb a’r hyn y byddwn yn ei gyflenwi drwy’r Cynllun Ardal rhanbarthol:

  • Cydlynu gwasanaethau cyson seiliedig yn y gymuned megis cysylltwyr cymunedol/rhagnodwyr cymdeithasol i ddynodi a chefnogi gofalwyr.
  • Adolygu promptio meddygol i roi gwell cefnogaeth i ofalwyr.
  • Gwybodaeth, cyngor a chymorth cywir drwy DEWIS a Phum Ffordd i Lesiant.
  • Adolygu ac alinio egwyddorion comisiynu’r trydydd sector i gefnogi cyfeillachu ar gyfer gofalwyr sydd angen cefnogaeth
  • Sicrhau fod gweithredu’r strategaeth Gofal yn Nes at y Cartref yn cynyddu cefnogaeth i ofalwyr ar lefel y gymuned
  • Comisiynu cyson ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau modelau teg ac effeithlon o gefnogaeth i ofalwyr ar draws y rhanbarth, yn cynnwys seibiant hyblyg.