Y canlyniadau blaenoriaeth a ddynodwyd drwy ymgysylltu gyda dinasyddion, partneriaid a defnyddio’r matrics blaenoriaethu; ac a gadarnhawyd yn ddilynol drwy ymgynghoriad yw:

  1. Sicrhau y caiff pobl eu cefnogi drwy fynediad i wybodaeth gywir, cymorth ac ‘adsefydlu’ lle bo angen.
  2. Gwella llesiant emosiynol yn arbennig drwy gefnogaeth tebyg-at-ei-debyg.

 

 

Ar draws yr ardaloedd awdurdod lleol yn rhanbarth Gwent, gwelodd Sir Fynwy gynnydd o 14.1% yn y nifer dros y cyfnod, o 241 ar 31 Mawrth 2011 i 273 ar 31 Mawrth 2015. Gwelodd ardaloedd yr awdurdodau lleol eraill ledled rhanbarth Gwent i gyd ostyngiadau yn amrywio o 6.5% yng Nghaerffili i 27% yn Nhorfaen dros yr un cyfnod.

 

 

Rwy’n teimlo’n gymaint gwell ar ôl siarad gyda rhywun a aeth drwy’r un problemau â fi.

Aelod Grŵp Cefnogi Nam ar y Golwg

Crynodeb a’r hyn y byddwn yn ei gyflenwi drwy’r Cynllun Ardal rhanbarthol:

  • Defnyddio arfer da a llwybrau effeithlon i ddatblygu egwyddorion comisiynu rhanbarthol.
  • Sicrhau gwybodaeth, cyngor a chymorth cywir, hygyrch ac amserol drwy DEWIS a dulliau eraill.
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda’r trydydd sector i ddynodi modelau newydd i gefnogi’r broses adsefydlu a chyflenwi offer golwg gwan.