Amdanom ni
Fel y nodir yn Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 mae’n ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i drin a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gweithio partneriaeth; ac i sicrhau fod gwasanaethau effeithlon, a gofal a chymorth yn eu lle i ddiwallu anghenion y boblogaeth berthnasol yn y ffordd orau. Amcanion y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yw sicrhau bod cyrff partneriaeth yn cydweithio’n effeithlon i:
- Ymateb i’r asesiad poblogaeth a gynhelir yn unol ag adran 14 y Ddeddf.
- Datblygu, cyhoeddi a gweithredu’r Cynlluniau Ardal ar gyfer pob ardal a gynhwysir fel sydd angen dan adran 14A y Ddeddf.
- Sicrhau fod cyrff partneriaeth yn darparu adnoddau digonol ar gyfer y trefniadau partneriaeth, yn unol â’u pwerau dan adran 167 y Ddeddf.
- Hyrwyddo sefydlu cronfeydd cyfunol lle’n briodol.
Bydd hefyd angen i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol roi blaenoriaeth i integreiddio gwasanaethau yng nghyswllt:
- Pobl hŷn gydag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, yn cynnwys dementia.
- Pobl gydag anableddau dysgu.
- Gofalwyr, yn cynnwys gofalwyr ifanc.
- Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd.
- Plant gydag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch.