Y canlyniadau blaenoriaeth a ddynodwyd drwy ymgysylltu gyda dinasyddion, partneriaid a defnyddio’r matrics blaenoriaethu, ac a gadarnhawyd wedyn drwy ymgynghoriad yw:

  1. Cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymysg y cyhoedd i ostwng stigma a helpu pobl i geisio cefnogaeth yn gynharach.
  2. Gwella llesiant emosiynol ac iechyd meddwl oedolion a phlant drwy ymyriad cynnar a chefnogaeth y gymuned.

 

 

 

Mae’r canran yn amrywio o 66% ym Mlaenau Gwent i 78% yn Sir Fynwy. Mae hyn yn cymharu gyda 72% o bobl 16 oed neu iau heb anhwylder meddwl cyffredin ar gyfer Gwent a 74% ar gyfer Cymru.

 

 

 

 

 

Ar draws yr ardaloedd awdurdod lleol yn rhanbarth Gwent rhagwelir y bydd cynnydd o 0.4% yn Nhorfaen a 16.6% yng Nghasnewydd yn nifer y bobl 5-15 oed gyda phroblem iechyd meddwl. Rhagwelir y bydd yr ardaloedd awdurdodau lleol eraill i gyd yn gweld gostyngiadau dros yr un cyfnod.

 

 

Rwy’n gweld llawer o ddisgyblion yn fy ysgol gyda phroblemau gyda hunan-ddelwedd a hunanbarch ac rydym angen mwy o gefnogaeth yn ein cymunedau lleol.

Pennaeth ysgol

Crynodeb a’r hyn y byddwn yn ei gyflenwi drwy’r Cynllun Ardal rhanbarthol:

  • Adolygu ac alinio strategaethau rhanbarthol gyda chynllun cyflenwi Gyda’n Gilydd dros Iechyd Meddw
  • Cydlynu gwasanaethau cymunedol cyson megis cysylltwyr cymunedol/rhagnodwyr cymdeithasol.
  • Modelau aml-asiantaeth seiliedig ar le sy’n cynnwys partneriaid ehangach fel cymdeithasau tai, cefnogi cyflogaeth a rhaglenni cymunedol
  • Gwybodaeth, cyngor a chymorth cywir drwy DEWIS a Phum Ffordd i Lesiant