Y canlyniadau blaenoriaeth a ddynodwyd drwy ymgysylltu gyda dinasyddion, partneriaid a defnyddio’r matrics blaenoriaethu, ac a gadarnhawyd yn ddilynol drwy ymgynghoriad yw:
- Gwella llesiant emosiynol pobl hŷn drwy ostwng unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol gydag ymyriad cynharach a chydnerthedd cymunedol.
- Gwella canlyniadau ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.
- Tai a llety addas ar gyfer pobl hŷn.